YN DYCHWELYD AM REDIAD TRYCHINEBUS ARALL!
Dydyn ni ddim yn gallu credu’r peth chwaith!
Mae comedi eithriadol lwyddiannus a rhyngwladol Mischief, sydd wedi ennill llawer iawn o wobrau, The Play That Goes Wrong, yn dychwelyd i Theatr Clwyd, yn dilyn ei llwyddiant blaenorol gyda phob tocyn wedi’i werthu!
Mae Cymdeithas Ddrama Cornley yn cyflwyno drama o’r 1920au am lofruddiaeth ddirgel, ond fel mae’r teitl yn awgrymu, mae popeth a all fynd o chwith ... yn mynd o chwith! Wrth i’r thesbiaid trwsgl frwydro ymlaen yn wyneb pob her i gyrraedd diwedd y ddrama, mae canlyniadau hynod ddoniol i’w mwynhau!
Yn ddrama a gafodd ei chanmol fel “a gut-busting hit” gan y New York Times, mae The Play That Goes Wrong yn ei seithfed blwyddyn yn awr yn y West End, ac mae wedi cael ei chanmol gan nifer fawr o sêr fel Joanna Lumley “We laughed until the tears ran down our faces, it has to be seen” ac Ant a Dec “The funniest show we’ve seen! If you can get a ticket, go!”
Peidiwch â cholli’r gomedi eithriadol ddoniol yma sy’n siŵr o wneud i’ch ochrau frifo yn chwerthin cymaint!
Oriel
Adolygiadau
- I FEARED I WAS GOING TO HYPERVENTILATEThe Daily Mail
- GENUINELY HILARIOUS. BOY, DOES IT HIT THE FUNNY BONEThe Daily Telegraph
- RIDICULOUSLY FUNNYThe Times
- EXQUISITELY CHOREOGRAPHED MAYHEMIndependent
- A TRIUMPH OF SPLIT-SECOND TIMINGMetro