The Lion Speaks Tonight: Scott Quinnell

Past Production

See dates and times  

Bydd yr arwr rygbi Scott Quinnell yn adrodd hanesion doniol, tameidiau o ffilmiau nad oes neb wedi eu gweld a lluniau o'i fywyd lliwgar ar y cae ac oddi arno.

Bydd yn rhannu straeon am sut mae wedi dod yn un o'r ffigurau Cymreig mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch gyda thameidiau o ffilmiau ohono nad oes unrhyw un wedi’u gweld o’r blaen. O dyfu i fyny gyda Chewri’r gêm i ddysgu darllen ac ysgrifennu ar ôl ei ymddeoliad a dod yn un o sêr y byd Teledu a Radio. Byddwch yn cael cyfle i ofyn y cwestiynau hynny rydych chi wedi bod eisiau eu gofyn erioed. Hefyd, mae mab Scott, Steele, yn rhannu ei bersbectif ac yn perfformio caneuon theatr gerdd poblogaidd!

Bydd nifer cyfyngedig o docynnau VIP a fydd yn cynnwys seddi blaenoriaeth, rhaglen bersonol i’w chadw a ‘Cwrdd a Chyfarch’ gyda llofnodion, ffotograffau a sgwrs gyda’r bois!