Ymunwch â Famous Five Enid Blyton am antur gerddorol fentrus!
Pan fydd George a’i chi Timmy yn darganfod bod ei chefndryd a’i chyfnither, Julian, Anne a Dick, yn dod i aros, maen nhw’n eithaf siŵr bod yr haf cyfan wedi’i ddifetha. Ond allan yn y bae mae Ynys Kirrin ac adfeilion castell yn llawn dirgelion i'w datrys. Gyda’i gilydd maen nhw’n cychwyn ar siwrnai fentrus gyda dyfodol y blaned yn y fantol – siwrnai a allai fod yn ddechrau ar y Famous Five…
Yn seiliedig ar nofelau y gwerthwyd miliynau o gopïau ohonynt gan Enid Blyton, mae’r sioe gerdd newydd yma gan yr arobryn Elinor Cook, gyda cherddoriaeth a geiriau gan Theo Jamieson, yn hynod gyffrous ac yn cynhesu’r galon.
Cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey (Home, I’m Darling).
Theatr Clwyd | Chichester Festival Theatre
Enid Blyton & The Famous Five ® Hodder & Stoughton Limited

Croeso nol!
Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!