The Da Vinci Code

Past Production

See dates and times  

‘An exhilarating, breathless thriller-chase. Blockbuster perfection’-The New York Times

Mae'r stori ysgubol a swynodd y byd bellach yn ddrama lwyfan epig.

Mae curadur y Louvre wedi cael ei lofruddio’n greulon, ac ochr yn ochr â’i gorff mae cyfres o godau dyrys. Dilynwch y siwrnai gynhyrfus wrth i'r Athro Robert Langdon, sy’n cael ei chwarae gan un o ffefrynnau’r byd teledu, Nigel Harman (EastEnders, Hotel Babylon), a'i gyd-gryptolegydd Sophie Neveu (Hannah Rose Caton), geisio datrys y codau, gan arwain at weithiau Leonardo Da Vinci a thu hwnt, yn ddwfn i hanes dan glo. Gydag arweiniad gan athro a ffrind, Sir Leigh Teabing, sy’n cael ei chwarae gan y ffefryn gan deuluoedd, Danny John-Jules (Red Dwarf, Death in Paradise), mae Langdon a Neveu yn cychwyn ar ras drwy strydoedd Ewrop. Rhaid i'r pâr ddadelfennu'r cod labyrinthaidd cyn colli cyfrinach hanesyddol ysgytwol am byth.

Yn seiliedig ar y nofel sydd wedi gwerthu orau yn ystod y ganrif yma, gyda mwy na 100 miliwn o gopïau wedi'u gwerthu, mae cyfle i ddatgloi cyfrinachau THE DA VINCI CODE yn yr addasiad llwyfan sy’n premiere byd o'r ffenomenon ryngwladol a datgelu’r gwir yn nrama fwyaf cynhyrfus y 2000 o flynyddoedd diwethaf.

“Rydw i wrth fy modd bod The Da Vinci Code yn cael ei addasu ar gyfer y llwyfan ac wedi cyffroi o weld potensial unigryw theatr fyw i wella’r stori yma. Mae’r tîm sy’n creu’r cynhyrchiad wedi bod yn driw i’r llyfr ond hefyd wedi cynnig rhywbeth newydd i’r gynulleidfa mewn drama sy’n sicr o fod yn un afaelgar, cyflym a chynhyrfus ac yn gwbl adloniadol.”
- Dan Brown

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl ni fydd disgrifiad sain ar gyfer y perfformiad am 7:30pm ar 16 Chwefror. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.


Croeso nol!

Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!



Adolygiadau

  • 0 Stars

    The Da Vinci Code has a fantastic cast and is thrilling
    The Reviews Hub
  • 0 Stars

    only a few minutes watching ... I got the feeling that I was watching something exceptionally clever.
    British Theatre Guide
  • 0 Stars

    This is a superb production
    The Star
  • 4 Stars

    Delivers plenty of bang for your buck
    To Do List

Cast a Chreadigol