The Adventures of Little Red Hen

Past Production

Stuff and Nonsense Theatre Company

See dates and times  

“Pwy fydd yn fy helpu i blannu'r grawn gwenith yma?”

“Dim fi” meddai'r Mochyn.

“Dim fi” meddai'r Llygoden Fawr.

Dim fi” meddai'r Fuwch.

Digon teg,” meddai’r Iâr Fach Goch, “Fe wna’ i hynny fy hun!”


Mae gwneud bara yn waith caled, ond byddai'n llawer haws pe bai anifeiliaid diog y buarth yn codi oddi ar eu soffas ac yn rhoi help llaw! Ymunwch â’n iâr fach ddewr ni wrth iddi ddod o hyd i'w ffordd ei hun o wneud pethau.

Addasiad egnïol o'r stori hoffus yma, yn cynnwys cyfuniad syfrdanol o bypedau gwych, cerddoriaeth fyw a chomedi bythgofiadwy.

Mae Stuff and Nonsense yn creu straeon clyfar, cyfareddol, yn cyflwyno llwyfannu dyfeisgar ac mae ganddyn nhw’r gallu i wneud i ni i gyd chwerthin. Yn un o gwmnïau mwyaf poblogaidd y DU, maen nhw’n arloeswyr wrth greu sioeau gyda theuluoedd ac ar eu cyfer.