Romantics Anonymous

Wise Children

See dates and times  

4 Stars

The Guardian

4 Stars

The Independent

Sioe gerdd ddoniol a thyner yn cael ei ffrydio’n fyw, gan Emma Rice

Mae Angélique yn wneuthurwr siocledi sy’n dioddef yn ddrwg o orbryder cymdeithasol. Mae Jean-René yn fos ffatri siocled sy’n prysur fethu. Mae Angélique mor ddiniwed fel ei bod yn llewygu pan mae pobl yn edrych arni. Mae Jean-René mor chwithig fel ei fod yn dibynnu ar dapiau hunan-gymorth ac mae’n tueddu i chwysu’n ddifrifol gan greu embaras mawr. Pan mae Angélique yn cael swydd yn ffatri Jean-René sy’n agos at gau, mae perthynas gariadus fregus yn datblygu.

Yn ddoniol, tyner a phoenus o chwithig, mae’r stori garu hyfryd yma’n rhoi sylw i dorri’r mowld a dod o hyd i ddewrder i fod yn hapus. Wedi’i chyfarwyddo gan Emma Rice (Kneehigh, Wise Children, Tristan & Yseult), peidiwch â cholli’r ffrwd fyw yma o lwyfaniad llawn o’r Bristol Old Vic yn eich cartref!

4 Stars

An intimate, delectably joyous mix of the silly and the stirring
The Independent

4 Stars

A sweetly funny, gorgeously tender musical rom-com”
London Times

4 Stars

A multifaceted gem, chock-full of love, generosity and joy
The Guardian

Wise Children | Bristol Old Vic

Cyfarwyddwyd gan Emma Rice
Llyfr gan Emma Rice
Geiriau’r caneuon gan Christopher Dimond
Cerddoriaeth gan Michael Kooman

Yn seiliedig ar y ffilm Les Émotifs Anonymes a ysgrifennwyd gan Jean-Pierre Améris a Phillippe Blasband. Cyflwynwyd Romantics Anonymous yn wreiddiol yn y Shakespeare’s Globe yn 2017 ac wedyn cafodd ei hatgyfodi gan Wise Children a Plush Theatricals yn 2020