The Rock 'n' Roll Panto!
Estynnwch am eich saethau, gwisgwch eich teits,
Mae Robin yn dod adref ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair!
Rhowch eich gitarau yn y plwg a symud y sain i 11, Ymunwch â Robin a'i fand roc a soul ar y grisiau i nefoedd byd y panto!
Mae ein panto enwog yn ôl! Wedi’i ysgrifennu gan y Cymro Christian Patterson (Beauty and the Beast, Jack and the Beanstalk), ymunwch â ni ar gyfer y caneuon roc, soul a phop mawr, ffrogiau ffantastig, setiau'n pefrio a’r pypedau panto anarchaidd!
Theatr Clwyd
Sut i Archebu Tocynnau?
Dyma ychydig o wybodaeth i'ch helpu chi i archebu lle i’ch ysgol!
- Tocynnau i ddisgyblion yn £10
- Yn anffodus ni allwn werthu tocynnau i rai nad ydynt yn ysgolion ar gyfer y perfformiadau hyn
- I staff rydym yn rhoi un tocyn staff am ddim am bob 20 disgybl
- Mae tocynnau staff ychwanegol yn £10
- Pan fyddwch yn archebu eich tocynnau bydd angen talu blaendal o 10%
- Taliad llawn am docynnau yn ddyledus erbyn dydd Gwener 30 Medi
- Anfonir tocynnau ar e-bost
- Nid oes TAW gan mai perfformiadau i ysgolion yw'r rhain
- Os ydych yn talu gyda siec, ysgrifennwch y siec i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf, ond mae'n well gennym gael taliad cerdyn (os yw hynny’n bosibl)
Cysylltu â Ni
Cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar (01352) 344101, neu e-bostiwch box.office@theatclwyd.com a gallwn eich ffonio'n ôl neu eich helpu gyda'ch archeb!
Date | Availability |
---|---|
30 Nov @ 10am | SOLD OUT |
30 Nov @ 1:30pm | Good (400+ seats) |
1 Dec @ 10am | SOLD OUT |
1 Dec @ 1:30pm | Limited (Less than 60 seats) |
7 Dec @ 10am | SOLD OUT |
7 Dec @ 1:30pm | Limited (Less than 40 seats) |
8 Dec @ 1:30pm | Limited (Less than 40 seats) |
13 Dec @ 1:30pm | Limited (Less than 75 seats) |
14 Dec @ 10am | Limited (less than 60 seats) |
14 Dec @ 1:30pm | SOLD OUT |
15 Dec @ 1:30pm | Limited (less than 82 seats) |
20 Dec @ 10am | Limited (less than 70 seats) |
20 Dec @ 1:30pm | SOLD OUT |
11 Jan @ 10am | Fair (300+ seats) |
11 Jan @ 1:30pm | Good (500+ seats) |