Puss in Boots

Past Production

See dates and times  

Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth hudolus gan gynnwys opera fer fywiog Montsalvatge yn seiliedig ar y stori dylwyth teg glasurol, gyda brenin, tywysoges, cawr hudolus a diweddglo hapus.

O’r cychwyn cyntaf mae cerddoriaeth Montsalvatge yn llawn egni, yn soniarus, gyda rhythm gafaelgar, alawon cyfoethog ac effeithiau cerddorol cathaidd!

Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys 5 o gantorion, sy’n canu yn Saesneg, a 5 offerynnwr sy’n chwarae trefniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Bydd yr ail hanner yn gyflwyniad steil cabare o eitemau poblogaidd a difyr gan y perfformwyr i gyd.

Opera Canolbarth Cymru