Triawd dawns sy’n mynd â chi o faes chwarae gwyllt, rhyfeddol i gymuned lofaol Gymreig mewn un noson.
Ein hailgysylltu â’n theatrau, ein hunain a’n… Gilydd.
Mae Ludo gan Caroline Finn yn eich gwahodd i ailddarganfod pleser plentyndod a dianc i faes chwarae o ddychymyg gwyllt.
_
Mae Codi gan Anthony Matsena wedi’i ysbrydoli gan gymunedau glofaol Cymru sy’n dod ynghyd yn ystod cyfnodau heriol. Dawns, cân a theatr bwerus.
_
Mae A New Work gan Andrea Costanzo Martini yn cynnig y llwyfan fel lle i ymgasglu: dawns.
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru