1921. Mae’r byd wedi newid ar ôl y Rhyfel Mawr. Mae unrhyw beth yn ymddangos yn bosibl nawr.

Mae Miss Julie, aeres i blasty mawr, yn chwilio am ddihangfa. Mae John, ei gwas, yn breuddwydio am ddyfodol gwell. Pan mae parti Calan Mai yn eu taflu at ei gilydd, mae tensiwn yn yr awyr. Ond ydi’r hen hierarchaeth wedi dod i ben mewn gwirionedd?

Mae blas modern ar glasur dadleuol Strindberg.

Awdur - Kaite O’Reilly
Cyfarwyddwr - Chelsea Walker
Dylunydd - Georgia Lowe
Cyfarwyddwr Symud - Cathy Waller
Dylunydd Goleuadau - Elliot Griggs
Dylunydd Sain - Jasmin Kent Rodgman
Cyfarwyddwr Ymladd - Owain Gwynn
Ymgynghorydd Cyfeiriad agosatrwydd - Ita O’Brien, Intimacy on Set
Cyfarwyddwr agosatrwydd - Jess Tucker Boyd, Intimacy on Set

Theatr Clwyd


This show is part of a subscription deal that helps you save £££ when booking multiple shows - click here to find out more!

Covid

Gallwch brynu tocynnau yn hyderus gyda ni wrth i sioeau byw ddychwelyd – byddwn yn cysylltu os bydd unrhyw beth yn newid gyda’ch archeb, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich ymweliad yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn hwyl. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae'ch seddi wedi newid?

Ar hyn o bryd mae ein tîm gwerthu yn brysur yn symud archebion oherwydd newidiadau i reolau Covid. Os ydych wedi derbyn tocynnau newydd, byddwch yn dawel eich meddwl bod eich seddi newydd mor agos at eich archeb wreiddiol â phosibl. Os hoffech newid eich archeb, cysylltwch â ni ar ôl 1 Medi os gwelwch yn dda.



Adolygiadau

  • 4 Stars

    gripping theatre that captures and holds the attention. It is a thoroughly worthwhile return to live theatre
    Theatre Reviews North
  • 0 Stars

    Stylish, steamy and tightly wrought
    The Stage
  • 4 Stars

    gripping take on Strindberg simmers with tension
    The Guardian
  • 4 Stars

    There's a real sense of urgency
    What's On Stage

Cast a Chreadigol