Macbeth and Romeo & Juliet

Past Production

See dates and times  

Macbeth mewn 40 munud?

Romeo and Juliet mewn 40 munud?

Dim ond 4 actor sy'n perfformio'r ddwy sioe mewn un noson?

Dwy o drasiedïau mwyaf Shakespeare wedi’u trawsnewid yn gomedïau gwallgof, syrthio-ar-y-llawr. Efallai eich bod chi wedi gweld Shakespeare o'r blaen, ond erioed fel hyn!

Mae Four Forty wedi bod yn rhoi pleser i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad gyda'u cynyrchiadau cyflym, hynod ddoniol. Gan gynnig dehongliad amgen o rai o ddramâu enwocaf y byd, mae eu harddull a’u carisma dihafal wedi eu gwneud yn unigryw fel un o’r cwmnïau teithio mwyaf chwareus o uchelgeisiol!