
Love Letters At Home
Past Production
Uninvited Guests a Fuel
The Guardian
Time Out
Sioe fyw hyfryd, yn gwbl ddigidol ac yn hollol bersonol hefyd.
Mae Love Letters At Home yn sioe gyfranogol lle bydd y cynulleidfaoedd a’r perfformwyr yn ymrwymo i gariad ac yn cyflwyno datganiadau o’u cariad, o’r gorffennol a’r presennol. Cwbl unigryw ac addas ar gyfer ynysu gan chwarae gyda beth sy’n real a beth sydd ddim, a chyfuno technoleg uchel ac isel.
Ymunwch â ni ar-lein wrth i ni godi gwydr i gariadon coll a chariadon presennol, i famau a thadau ac i ffrindiau absennol.
Sut mae’n gweithio
Ar ôl i chi archebu eich tocyn, byddwch yn derbyn e-bost gyda gwahoddiad i anfon cais am gerddoriaeth i’w chyflwyno i rywun rydych chi’n ei garu. Byddwch yn derbyn neges e-bost yn eich atgoffa chi y diwrnod cynt gyda chyfrinair a dolen Zoom (fideo ar-lein) i fynychu’r sioe, gyda mwy o wybodaeth am y digwyddiad hefyd. Mae’r sioe’n para ychydig llai nag awr ac wedyn byddwch yn derbyn neges e-bost gyda rhestr chwarae o’r traciau glywsoch chi.
Archebu a Phrisiau
Mae’r sioe yn cael ei harchebu drwy safle ein partner ni, Fuel Theatre (dolenni isod) ac mae’r tocynnau am ddim. Gofynnir i chi a fyddech yn hoffi gwneud cyfraniad ar ôl y sioe, i helpu i gefnogi’r actorion, yr ymarferwyr a’r cwmni gwych tu ôl i’r sioe.
Crëwyd gan Uninvited Guests | Cynhyrchwyd gan FUEL | Roedd Love Letters yn gomisiwn gwreiddiol gan BAC Scratch ac Arnolfini We Live Here, ac fe’i comisiynwyd hefyd gan y Leeds Met Studio Theatre. Mae’r fersiwn digidol wedi’i gomisiynu ar y cyd gan First Art
The dedications are manifestly authentic and heartbreakingly sincereIndependent on Sunday
you can't help but fall in love with it, not least because it makes you fall in love with everybody else in the room...The Guardian
It is a marvellous piece of theatre that blowtorches away Britishness and forces you to feelTime Out