
Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit
Reviews Hub
Everything Theatre
A first class improvised murder mystery with hilarious performances.The Reviews Hub
Dirgelwch llofruddiaeth cwbl fyrfyfyr ar ffurf comedi.
Mae Pinch Punch yn eich croesawu chi ar fwrdd Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit, dirgelwch llofruddiaeth cwbl fyrfyfyr, cwbl warthus lle mae lladd y cast a datrys yr achos yn eich dwylo chi.
Mae pedwar cymeriad yn mynd ar drên, ond dydi pawb ddim yn mynd i oroesi... Diolch byth, mae ditectif byd-enwog ar y trên, yn barod i ddatrys yr achos. Ond pwy yw'r llofrudd? Dim ond un person yn y sioe sy'n gwybod - y llofrudd ei hun! Allwch chi helpu'r ditectif i ddatrys yr achos?
Gan ddefnyddio straeon ac awgrymiadau’r gynulleidfa, gwyliwch Pinch Punch yn creu whodunnit unigryw, unfath, na chaiff fyth ei ailadrodd.
Allwch chi helpu'r ditectif i ddatrys yr achos?
Caru comedi neu ddirgelion llofruddiaeth?
Os felly, dyma'r sioe i chi!