Llygoden yr Eira

See dates and times  

Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac mae’r eira yn garped ar lawr y goedwig. Gan wisgo’n gynnes, rhuthra blentyn allan i chwarae yn y byd newydd disglair.

Ond beth sy’n cuddio’n dawel dan yr eira? Llygoden fach yn cysgu’n sownd. Gan lithro, rolio a chwerthin, mae’r ddau ffrind newydd yn ymgolli gyda’i gilydd yn y byd rhyfeddol hwn.

Dewch i gadw’n gynnes yn yr eira mawr ac ymuno â ni ar antur yn y goedwig hudol. Dyma stori aeafol swynol i blant bach, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae.

Yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light Theatre Company

Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo


Mesurau Diogelwch Covid

Gallwch brynu tocynnau gyda ni yn hyderus - byddwn yn cysylltu os bydd unrhyw beth yn newid gyda'ch archeb, a byddwn yn sicrhau bod eich ymweliad yn ddiogel ac yn gyfforddus. I ddarganfod mwy am ein mesurau diogelwch, cliciwch yma.

Pasys Covid y GIG

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y defnydd o Basys Covid y GIG i gynnwys sinemâu a theatrau. Mae hynny'n golyg y bydd arnoch angen pas Covid y GIG i fynychu digwyddiadau gyda ni – does dim byd I boeni amdano, dyma wybodaeth pellach am sut I gael eich pas yn hawdd ac yn gyflym – cliciwch yma.