Joe Simpson: ACT

Past Production

See dates and times  

Hoff actorion Prydeinig Joe Simpson yw testunau ei gyfres newydd o baentiadau. Gofynnodd i bob actor – ‘pa rôl ydych chi wedi bod eisiau ei chwarae erioed ond heb gael cyfle i wneud hynny?’ – ac wedyn creu paentiad naratif ohonyn nhw wedi’u portreadu yn ôl eu dewis ar ganfas fformat llydan mawr.

Nid dim ond portreadau syml yw’r paentiadau hyn, maen nhw’n dangos yr actorion wrth eu crefft, yn actio fel cymeriad y byddent yn hoffi ei chwarae. Meddai Joe, ‘Rydw i’n meddwl bod eu dewisiadau nhw’n rhyfeddol ac maen nhw’n datgelu eu cymhelliant a’u hangerdd’. Mae gan bob darn astudiaeth acrylig du a gwyn yn cyd-fynd.