Comedi newydd am dyfu i fyny.
Mae Fay wedi cael digon.
Mae ei thiwtoriaid yn y coleg gerddoriaeth yn dweud wrthi ei bod yn methu.
Mae hi’n rhoi popeth – a dydi hynny ddim yn ddigon.
Dydi Fay ddim yn mynd i fethu.
Mae hi’n mynd i wneud y peth aeddfed, ymddwyn fel oedolyn.
Mae hi’n mynd i roi’r gorau iddi.
Y cyfan sydd raid iddi ei wneud yw cerdded i’r coleg, cyflwyno ei llythyr ac mae hi’n rhydd o’r holl anawsterau a’r poeni.
Fedr unrhyw beth wneud i Fay newid ei meddwl?Gawn ni weld.
Premiere byd o gomedi newydd gan y dramodwyr arobryn Alexandria Riley a Gary Owen, wedi’i hysgrifennu ar gyfer Ensemble 2022 Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru, sy’n arddangos y talentau newydd gorau yng Nghymru.