If You Fall

Past Production

See dates and times  

Mae Margaret yn biler yn ei chymuned leol. Mae Norson yn gogydd gwych. Mae e wrth ei fodd gyda chriced a physgota. Mae hi wrth ei bodd yn canu a gyda'i phlanhigion lafant. Mae'r ddau wedi'u hamgylchynu gan deuluoedd cariadus. Mae eu bywydau yn llawn… Felly beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n colli'ch annibyniaeth, eich llais, eich meddwl - hanfod yr hyn sy'n eich gwneud chi’n chi?

Yn yr Hen Roeg, roedd pobl hŷn yn uchel eu parch. Yn yr Aifft, roedd henaint yn arwydd o ddoethineb. Heddiw, yn y DU, mae gofal am aelodau hŷn y teulu yn cael ei roi ar gontract allanol yn aml. Ond mae'r system ofal yn gwegian. Mae If You Fall yn adrodd straeon hynod ddynol pobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr wrth iddyn nhw frwydro gyda gofal diwedd oes gydag urddas.

Mae Ad Infinitum, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cyflwyno stori deimladwy, ddoniol a sensitif yn seiliedig ar dystiolaeth bersonol iawn. Yn llawn canu a capella a’u steil nodweddiadol o theatr gorfforol, mae’r cast ensemble yma sy’n pontio’r cenedlaethau yn edrych ar ofal i bobl hŷn yn ei holl gymhlethdodau.

Sgwrs ar ôl y sioe - Dydd Gwener 2 Mehefin