I Want My Hat Back

Past Production

See dates and times  

4 Stars

Impressive theatricality. A charming cardboard adaptation of Jon Klassen's picture books.
The Stage

Mae arth wedi colli ei het. Beth os na fydd yn ei gweld eto byth? ARHOSWCH! Mae wedi gweld ei het.

Mae pysgodyn wedi dwyn het. A mwy na thebyg, ni fydd unrhyw un yn dod i wybod. Mwy na thebyg.

Mae dau grwban wedi dod o hyd i het. Mae'r het yn edrych yn dda ar y ddau ohonyn nhw. Ond mae dau grwban. A dim ond un het.

Yn dilyn eu cyfres ddigidol lwyddiannus ar sianel YouTube Little Angel Theatre, a rhediad gyda phob tocyn wedi’i werthu yn eu lleoliad, mae llwyddiannau cyfnod clo Ian Nicholson a Sam Wilde yn ôl, yn arddangos eu dyluniad cardfwrdd nodedig ledled y DU ar y daith gyntaf erioed o I Want My Hat Back Trilogy!

Mae llyfrau hoffus Jon Klassen, I Want My Hat Back, This is Not My Hat a We Found A Hat, wedi cael bywyd newydd yn FYW ar y llwyfan.