Here: Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

See dates and times  

Mae NDCWales YMA. Ymunwch mewn awr o ddawnsio fydd yn gwneud i chi grŵfio a chwerthin ac yn mynd â’ch gwynt.

Yn cynnwys darluniau hudolus, gwisgoedd lliwgar a cherddoriaeth fyw, mae'r triawd yma o ddawnsfeydd yn llawn egni ac yn mynd o’r poenus o hardd i gwbl wirion sy’n gwneud i chi chwerthin yn uchel.

Mae 'Afterimage' yn ffefryn gwefreiddiol gan y gynulleidfa lle mae drychau’n cael eu defnyddio i wneud i gymeriadau ddiflannu’n hudolus ac wedyn ailymddangos ar y llwyfan.

Mae ‘Why Are People Clapping!?’ yn ddyrchafol, yn ddoniol ac yn chwerthinllyd o glyfar. Mae'n defnyddio rhythm fel grym i greu llawenydd sy’n gwneud i chi dapio’ch traed.

Mae 'Moving is everywhere, forever' yn fywiog ac yn gynnes iawn. Teyrnged hyfryd i'r weithred o symud gyda thrac sain magnetig gan y ddeuawd gerddoriaeth electronig o Gymru, Larch, yn gyfeiliant i’r cyfan.

Coreograffi: Fernando Melo, Ed Myhill, Faye Tan


This show is part of a subscription deal that helps you save £££ when booking multiple shows - click here to find out more!

Covid

Gallwch brynu tocynnau yn hyderus gyda ni wrth i sioeau byw ddychwelyd – byddwn yn cysylltu os bydd unrhyw beth yn newid gyda’ch archeb, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich ymweliad yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn hwyl. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae'ch seddi wedi newid?

Ar hyn o bryd mae ein tîm gwerthu yn brysur yn symud archebion oherwydd newidiadau i reolau Covid. Os ydych wedi derbyn tocynnau newydd, byddwch yn dawel eich meddwl bod eich seddi newydd mor agos at eich archeb wreiddiol â phosibl. Os hoffech newid eich archeb, cysylltwch â ni ar ôl 1 Medi os gwelwch yn dda.