Gigs Clwyd - Alffa & Seazoo

Past Production

See dates and times  

Gigs Clwyd - Gigs Cymraeg cartrefol yn arddangos y gorau mewn talent gerddorol newydd.

Bydd dau o fandiau gorau Cymru yn perfformio setiau cartrefol braf i ni. Mae Alffa o Lanrug yn ddeuawd roc blŵs ac mae’r grŵp indi-pop Seazoo wedi ymddangos ar BBC 6 Music.


Deuawd roc blŵs o Lanrug yng Ngogledd Cymru yn perfformio yn y Gymraeg ydi Alffa. Yn 2019, dywedodd platfform ffrydio Spotify mai’r band yma oedd y "most streamed Welsh language act ever" gyda thair miliwn o ffrydiau ar gyfer eu dwy sengl yn unig. Mae'r band yn nodi eu dylanwadau fel The Black Keys, The White Stripes, The Arcs, Black Pistol Fire, Jimi Hendrix, Tymbal, a Jack White.

Mae Seazoo yn ddewiniaid cerddorol Cymreig sydd wedi cael eu cefnogi gan BBC Radio 1, BBC 6 Music and Radio Wales. Gyda sesiynau byw Marc Riley a sesiwn BBC Maida Vale wedi’u cwblhau eisoes, maen nhw hefyd wedi cefnogi Circa Waves, The Lovely Eggs, Idles ac wedi chwarae yn Green Man, Gŵyl Rhif 6 a Gwyliau Great Escape, SXSW a Howllin’ Fling.