Adrodd straeon doniol, cynnes gan awdur / perfformiwr arobryn y BBC, Shôn Dale-Jones. Stori am gariad, gwytnwch a chwerthin ar y pethau a ddylai wneud i ni grïo.
Pan mae rhywun yn awgrymu y dylai Shôn ailgyflwyno ei sioe boblogaidd gyda Total Theatre yn 2006 a enillodd sawl gwobr, FLOATING (Barbican, Sydney Opera House), am Ynys Môn yn arnofio i ffwrdd o dir mawr Prydain, mae’n siŵr nad dyma sydd ei angen ar y byd ar hyn o bryd. Nid 2006 yw 2022.
Wrth i Shôn egluro pam na ddylai gyflwyno’r sioe cawn wybod bod mynd yn ôl weithiau yn ein helpu ni i symud ymlaen. Yn cael ei hadrodd gan enillydd Fringe First ddwywaith, mae hon yn stori ddoniol, ddyrchafol a theimladwy, sy’n gwneud i’r real a’r afreal ffitio gyda’i gilydd mewn un cyfanwaith syfrdanol.

Dewis a Chymysgu
5 sioe am £30 | 3 sioe am £24
Creu eich bag eich hun o theatr wych - Ychwanegu’r sioeau i’ch basged - Arbed hyd at £50.
Yn berthnasol i'r sioeau canlynol: The Gods The Gods The Gods | Angel | Still Floating | Horse Country | The Gods Are All Here | Fake News | Gigs Clwyd | Cabarela
Telerau ac Amodau | Yn amodol ar argaeledd. | Ar gael pan fyddwch yn prynu’r holl docynnau ar yr un pryd. | Dim ond yn ddilys ar gyfer y sioeau a’r cyfuniadau sydd wedi’u nodi. | Yn ddilys ar gyfer tocynnau pris llawn yn unig.
Adolygiadau
- Reduces audiences to tears and raptureThe Guardian