Mewn pentref yng Nghymru, daw pobl sâl i chwilio am wellhad. Maen nhw eisiau eiliad gyda Frank, y perfformiwr mawr sy'n cynnig gobaith ac iachawdwriaeth. Oherwydd mae gan Frank ddawn. Dawn i iachau.
Drwy gydol y 1950au a’r 1960au, mae Hardy a’i wraig, Grace, yn teithio i gorneli anghysbell o’r Alban a Chymru, cyn dychwelyd yn y pen draw i Iwerddon, gwlad ei eni i Frank. Gyda'i reolwr, Teddy, maen nhw’n symud o bentref i bentref, gan gynnig cymysgedd o’r theatrig a'r ysbrydol.
Gan ddefnyddio pedair ymson gyfareddol i blethu straeon y tri chymeriad nodedig yma, mae Brian Friel yn mynd â ni ar siwrnai ryfeddol o sawl persbectif gydag atgofion ansicr.
Drama gan Brian Friel, un o ddramodwyr mwyaf Iwerddon. Mae ei brif weithiau yn cynnwys Translations, Dancing at Lughnasa, Molly Sweeney a Philadelphia, Here I Come!
London Classic Theatre
Oriel
Adolygiadau
- “London Classic Theatre are well known for their fabulous productions… and this again is fantastic under the direction of Michael Cabot.”On In My City