Bydd y cynhyrchiad cyfareddol hwn yn arddangos y dalent anhygoel sydd yn yr ysgol; gyda ballet hardd, tap bywiog, jazz athletaidd, a theatr gerddorol a masnachol sy’n llawn mynegiant, yn delynegol ac yn egnïol.
Mae’r cast dawnus o tua 300 o ddawnswyr, o 2 oed i oedolion, yn cynnwys enillwyr Medal Aur Cwpan Dawns y Byd. Am gyfnod cyffrous i'r holl ddawnswyr sy’n cymryd rhan!
Mae 2022 yn nodi pen-blwydd Elite yn 16 oed. Pa well ffordd o ddathlu Sweet 16 na gyda Homecoming!

Croeso nol!
Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!