Awr Ddaear

Past Production

See dates and times  

Diffoddwch eich goleuadau gartref ac ymunwch â ni am noson glyd, yng ngolau cannwyll, o gerddoriaeth a barddoniaeth wedi’u hysbrydoli gan fyd natur a’r blaned.

Dechreuodd Awr Ddaear fel mudiad 'diffodd goleuadau' byd-eang. Mae'r digwyddiad blynyddol yn annog pobl i ddiffodd eu goleuadau trydan am awr fel symbol o ymrwymiad i'r blaned.

Rydyn ni'n cynnal digwyddiad AM DDIM yn llawn cerddoriaeth a barddoniaeth sy'n dathlu'r blaned - ond ’allwn ni ddim gwneud hynny yn y tywyllwch!

Byddwn yn ffrwyno ein hynni cinetig ein hunain gyda goleuadau pŵer pedal i sicrhau bod ein digwyddiad yn ddi-garbon, yn atmosfferig ac yn llawn hwyl.

Dewch gyda ni ar daith i lunio ein dyfodol, cael eich goleuo gan berfformiadau acwstig a llafar a chael eich goleuo (yn llythrennol) gan dîm Theatr Clwyd a fydd yn pedlo 10 beic cynhyrchu trydan.

Archebwch eich tocyn fel ein bod yn gallu oeri diodydd ymlaen llaw ac anfon mwy o wybodaeth atoch chi cyn y digwyddiad.

Ser y sioe:
  • Caitlin Gilliagan

    Canwr Gwerin
  • Evrah Rose

    Bardd, Awdur, Gweithredydd
  • Isabella Crowther

    Canwr-Gyfansoddwr
  • Ben Wilson

    Bardd Llafar | Cyfarwyddwr Sefydledig OsNosh - Foodwaste
  • Catrin Mai Edwards

    Telynores
  • Beiciau cynhyrchu ynni!

    a'r tîm o Theatr Clwyd a fydd yn eu reidio nhw