Sioe newydd ar gyfer theatrau gwag.
Dydw i ddim wedi bod yn gweithredu oddi mewn i’r canllawiau a dydw i ddim wedi cael fy arwain gan yr wyddoniaeth a dydw i ddim wedi dod allan yr ochr arall yn gryfach nac yn ddoethach nac yn well yn dilyn y profiad. Wnes i ddim bwyta allan i helpu allan a wnes i ddim dod yn rhiant a wnes i ddim gwneud defnydd o goridor teithio. Dydw i heb symud allan o Lundain na gwirfoddoli ar gyfer unrhyw beth a dydw i heb fynychu perfformiad awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol o Educating Rita. Wnes i ddim dal ati i fynd i’r gwaith a wnes i ddim gweithio o bell a wnes i ddim defnyddio’r amser yma i weithio ar fy ffitrwydd. Dydw i heb wneud un lap rownd yr ardd a dydw i heb beryglu fy hun mewn unrhyw ffordd a dydw i heb wneud unrhyw beth i gefnogi diwydiant lletygarwch Prydain. Wnes i ddim methu triniaeth feddygol. Wnes i ddim dysgu iaith. Wnes i ddim gohirio priodas. Wnes i ddim archebu gwyliau gartref yng Nghernyw nac Ardal y Llynnoedd na rhywle ar arfordir Caint. Wnes i ddim gorymdeithio na mynd i nofio na chael fy mhrofi a wnes i ddim “darllen mwy”. Dydw i heb fod ar gwch nac yn gwarchod fy hun gartref. Dydw i heb gael anhawster gyda gofal plant, dydw i heb fod yn chwarae pêl droed ar ddyddiau Mawrth, dydw i heb gael fy lladd a dydw i heb fod yn mynychu cyfarfodydd o hyd at chwe theulu. Dydw i heb golli fy swydd, dydw i heb fod mewn angladd. Dydw i heb ddefnyddio banc bwyd a dydw i heb gyffwrdd yn fy rhieni ers y Nadolig.
Daniel Kitson sy’n cyflwyno ei gofnod o chwe mis gwallgof a dinistriol, wedi’i brofi i raddau helaeth o bellter diogel, wedi’i gamgofio ar unwaith bron, ac yn cael ei ailadrodd yma’n anghywir er mwyn bod yn ffuglennol fwy neu lai. Crëwyd ac ysgrifennwyd y gwaith yma’n benodol i gael ei berfformio a’i ffrydio o theatrau gwag gyda’r capasiti ar gyfer cynulleidfa’n gyfyngedig i gapasiti pob lleoliad.
Gobeithio y bydd hwn yn llawer mwy o hwyl nag y mae’n swnio.
A couple of important things. Firstly, please buy one ticket per person rather than, per household - the show is still being written and may develop in a direction where it is best experienced individually on individual devices. Secondly, the way this will work is that you’ll receive an email upon booking to confirm your tickets, you’ll then receive a second email a few days before the show giving you some technical advice, should you need it and then, on the day of the show, an hour before the performance, you’ll receive a third email containing a link to the stream and a password. You go to the link, you enter the password and that’s it.