Cwmni65 - ar gyfer pawb 65+ oed

Past Production

See dates and times  

Dydd Iau | 29 Hyd - 10 Rhag

Cyfle i archwilio eich creadigrwydd a dysgu am greu theatr gyda thîm Theatr Clwyd o artistiaid talentog ac arweinwyr gweithdy.

Gallwch ddisgwyl rhoi cynnig ar lawer o wahanol brofiadau – o actio a dawnsio i gerddoriaeth a gwaith sgript, a mynd tu ôl i’r llenni hyd yn oed o bosib. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn rhannu straeon, yn chwerthin ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Yr hydref yma bydd yr holl gwmnïau’n dod at ei gilydd i arddangos eu gwaith ar ein prif lwyfan.


Cymunedau Digidol

Fe wnaethom barhau i ddarparu gweithdai digidol yn ystod y broses gloi, gan gadw ein cwmnïau yn gysylltiedig ag yn greadigol - edrychwch yma ar ein haf o weithdai ar-lein.