Dydd Llun | 18 Ion - 22 Maw 2021
Cyfle i archwilio eich creadigrwydd a dysgu am greu theatr gyda thîm Theatr Clwyd o artistiaid talentog ac arweinwyr gweithdy.
Gallwch ddisgwyl rhoi cynnig ar lawer o wahanol brofiadau – o actio a dawnsio i gerddoriaeth a gwaith sgript, a mynd tu ôl i’r llenni hyd yn oed o bosib. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn rhannu straeon, yn chwerthin ac yn gwneud ffrindiau newydd.
Mwy?
E-bostiwch ni yn box.office@theatrclwyd.com