5 drama| 10 Actor | 1 sioe wych

Ymgollwch eich hun mewn storiâu annisgwyl – o becynnau dirgel i fynd yn ôl mewn amser – dyma noson o gomedi, drama ac angerdd mewn ffurf dramâu byrion.

Pum drama am bris un!

Pob wythnos, bydd pum drama fer newydd yn cael eu perfformio fel casgliad gyda’u gilydd gan 10 actor.

Cadwch yr actorion ar flaenau eu traed – achos CHI fydd yn dewis pwy fydd yn chwarae pwy, beth fyddent yn eu gwisgo a pha bropiau byddent yn eu defnyddio!

Wedi eu perfformio mewn ffurf theatr gron gydag wynebau cyfarwydd o’r llwyfan a’r sgrin, wedi eu hysgrifennu gan ein hawduron mwyaf cyffrous!

Gwerth ei weld os ydych yn mwynhau:Talking Heads Alan Bennett, Whose Line Is It Anyway? neu Black Mirror


Dramâu ac Awduron

Y pum drama a berfformir yn ystod yr wythnos hon fydd:

The Order Of The Object
gan Lisa Parry

Sut ydych chi’n dod a phobl at ei gilydd? Mae angen i Wrecsam, Y Rhyl, Yr Wyddgrug, Llangollen a Conwy sefyll fel un er mwyn dyfodol disglair – yr unig beth sydd eu hangen arnyn nhw yw rhywbeth i'w huno. Efallai mai crefydd newydd yw’r ffordd i fynd? Gall llawer o ddychymyg ac argyhoeddiad cryf fynd yn bell...

Letting Go
gan Ciaran Fitzgerald

Mae ei ferch yn symud allan, mae ei bagiau wedi cael eu pacio, mae ei lifft ar ei ffordd. Ond mae gollwng gafael yn anoddach i dadau na fyddech yn ei feddwl. Efallai nad yw eisiau ‘man cave’ gyda’r holl wagle. Efallai mai gwag yw’r peth sy’n ei ofni fwyaf.

Trwsio:Repair
gan Kristian Phillips

Gall y siop atgyweirio drwsio unrhywbeth. O ffosiliau hynafol i eitemau anadferadwy, gallant ei drwsio. Peidiwch â gofyn am sgwrs yn unig. Nid yw gwrando yn rhan o'r gwasanaeth. Ond a allwch chi atgyweirio person hebddo?

Stop The Drop
gan Jennifer Lunn

Mae pethau rhyfedd yn digwydd ar randir yn yr Wyddgrug. Mae pethau annisgwyl yn disgyn o’r awyr. Os unrhyw un am ddatrys y broblem ac amddiffyn y pwmpenni?
Mae gohebydd craff yn mynd â'r frwydr i achub y darnau llysiau i'r gwleidydd sydd ddim wir yn poeni…...

Little Ember
gan Rebecca Jade Hammond

Nid oes raid i farwolaeth fod yn ddiwedd ar bethau, nagoes? Yn enwedig os ydych wedi cael hyd i ddewin pum seren arlein, oll sydd ei angen arnoch yw man tawel yn y goedwig, cadw’ch llais ac ychydig o amser.


Unrhyw gwestiynau neu broblemau gydag archebu?

Ffoniwch dîm cyfeillgar ein swyddfa docynnau ar 01352 344101 (10am i 5pm)


Croeso nol!

Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!


Cast a Chreadigol