Dosbarth Meistr Dawnsio Creadigol a Symudiad (4-6 oed)

See dates and times  

Ymunwch ag Annie-Lunnette wrth iddi eich arwain chi drwy ddosbarth meistr chwareus, egnïol a hwyliog lle byddwch yn dysgu trefn gyffrous ac wedyn yn addasu’r drefn ac yn creu fersiynau newydd o’r gyfres ar gyfer y gofod rydych chi ynddo.

Bydd llawer o chwerthin a chreadigrwydd ar gyfer y teulu cyfan. Does dim angen unrhyw brofiad o ddawns ond bydd gennych chi ddigon erbyn y diwedd.