Mae Annie Morgan Suganami (g.1952) yn artist a cherddor o Gymru sy’n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd ym Machynlleth, Cymru. Hyfforddodd Suganami yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Mae Enaid, Gwaed, Ysbryd yn cynnwys portreadau yn ogystal â chymeriadau dychmygus, yn baentiadau a darluniau, gan gynnwys darnau o’r wyth mlynedd ddiwethaf ochr yn ochr â phortreadau a gwaith arall sydd wedi’i gynhyrchu ar gyfer yr arddangosfa.
Wedi’i benthyca neu ei dychmygu, iaith y corff dynol, ac yn fwyaf penodol yr wyneb, sy’n ganolog i waith Suganami. Mae’n cael ei chymell i baentio cymeriadau sy’n mynegi cadernid, dyfalbarhad, gwrthsafiad a thynerwch – eiconau personol o wytnwch mewn cyfnodau ansicr.