Al Lewis: Te yn y Grug

See dates and times  

Mae Al Lewis yn ganwr/ysgrifennwr caneuon yn wreiddiol o Bwllheli ac bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Fel ysgrifennwr a pherfformiwr dwyieithog, mae Al hyd yma wedi rhyddhau cyfanswm o 5 albwm. Enwebwyd ei albwm cyntaf Saesneg 'In the Wake' ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac enwebwyd ei albwm Cymraeg 'Heulwen o Hiraeth' ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yn perfformio fersiynau unigol o’i albwm newydd a ysbrydolwyd gan Kate Roberts, ‘Te yn y Grug‘, i ddathlu pen-blwydd y llyfr yn 60 oed.