Adeilad yn Llawn Straeon

Past Production

See dates and times  

Wrth i'n gwaith ailddatblygu cyfalaf ddechrau, rydyn ni'n rhannu'ch straeon, eich profiadau a'ch anecdotau am ein hadeilad dros y 45 mlynedd diwethaf.

O gyfarfod wynebau enwog i'ch hoff sioeau, o briodasau i weithdai, mae'r profiad promenâd yma’n gyfle i chi archwilio rhannau cudd o'n hadeilad a chlywed atgofion hen a newydd!

Gofynnwn i gynulleidfaoedd ddod a dyfais (ipad, ffon, tabled) a chlustffonau gyda nhw, os gwelwch yn dda, er mwyn gwrando ar y sain, cewch fwy o wybodaeth ar ôl cyrraedd.

Os oes gennych golled cof neu anghenion ychwanegol ac yr hoffech gael taith Adeilad yn Llawn Straeon gyda chymorth, yna bydd gennym sesiwn Awr Dawel ar ddydd Gwener am 2yp.


Croeso nol!

Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!