Cynllun Seddau

Cynllun Seddau
Mae gan y rhan fwyaf o’n sioeau seddau neilltuedig. Pan yn archebu arlein, gallech ddewis eich sedd ar gyfer y sioeau hyn.
Cliciwch yma i weld ein cynllun seddau cyffredinol ar gyfer Theatr Anthony Hopkins a’r Sinema.


Ymarferion Wisgoedd Agored
Ar gynyrchiadau Theatr Clwyd** mae gennym ymarfer Gwisg Agored y diwrnod cyn i’r cynhyrchiad agor yn swyddogol. Y perfformiadau hyn yw’r cyfle cyntaf i weld y gwaith gwych sydd wedi cael ei greu a’r cyfle i ni hogi’r sioe o flaen cynulleidfa byw, a chefnogol. Mae’r tocynnau yn llawer iawn rhatach ar gyfer y perfformiadau hyn (£5 ar hyn o bryd) ac maent yn gwerthu allan yn gyflym. Gellir eu harchebu arlein neu gyda’n tîm y swyddfa docynnau.

Tocynnau rhad ar gyfer y rhai o dan 30
Os ydych o dan 30 oed fe allech gael tocynnau ar gyfer cynhyrchiad Theatr Clwyd** am dim on £5 ar rai perfformiadau. Maent yn dueddol o fod ar gael yn ystod y 3 – 5 perfformiad cyntaf, ac mae’n ffordd wych o gael gweld perfformiad theatr am bris îs. Gallent gael eu harchenu arlein neu gyda’n tîm y swyddfa docynnau.