Hynt

HYNT LOGO

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson.  Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr.

Cynllun Cerdyn Aelodaeth HYNT 

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson.  Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr.

Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.

Mae gan y rhai sydd â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

Mae www.hynt.cym yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. Os hoffech siarad ag aelod o staff Theatr Clwyd, cysylltwch â 01352 701521.