Dewiswch eich dyddiad a thiwniwch i mewn adra!


The Panto That Nearly Never Was - Ar-lein!

Mae’r Wrach Gas wedi ennill!
Beth wnawn ni am hwyl Nadoligaidd?
Mae byd y Panto’n dawel – popeth dan glo...
Ond mae’r bobl dda’n ailgodi dim ots faint maen nhw’n cael eu taro i lawr...

Awr roc a rôl yn null panto math o beth cyn i’r panto ddychwelyd gyda Beauty and the Beast yn 2021.

Theatr Clwyd | Cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey


Dylai pob cwsmer a brynodd docyn ar gyfer y sioe fyw fod wedi derbyn e-bost ynglŷn â newid eu tocynnau i wylio ar-lein. Os na, yna cysylltwch trwy e-bostio box.office@theatrclwyd.com i roi gwybod i ni!

Rhestr lawn o'r perfformiadau

Dim ond ar ddyddiad y perfformiad rydych chi wedi archebu ar ei gyfer y byddwch chi'n gallu gweld y sioe.


Maw 22 Rhagfyr| Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Mer 23 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Iau 24 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Sul 27 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

LLun 28 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Maw 29 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Mer 30 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Iau 31 Rhagfyr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Sad 2 Ionawr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm

Sul 3 Ionawr | Cliciwch yma i wylio'r ffilm


Cael problemau? Gallwn ni helpu!

Weithiau gall un neu ddau o bobl gael problemau wrth geisio cael mynediad i’r fideo. Dyma ychydig o bethau i roi cynnig arnyn nhw:

  • Dim cyfrinair? - Bydd angen i chi greu cyfrinair i gael mynediad i'r fideo. Os cliciwch yma, yna "Wedi anghofio'ch cyfrinair? Ailosod yma" - gallwch ailosod eich cyfrinair - defnyddio'r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi brynu'ch tocynnau ag ef. Anfonir dolen atoch sy'n eich galluogi i osod eich cyfrinair. Gwiriwch eich ffolderau sbam oherwydd weithiau gall yr e-bost ailosod cyfrinair fynd ar goll. Os oes gennych fater e-bostiwch ni ar support@theatrclwyd.com

  • Problem mewngofnodi – Bydd angen i chi fewngofnodi i’r cyfrif gwnaethoch chi greu ar y wefan hon pan brynoch chi eich tocynnau i wylio’r ffilm hon. Y cyfeiriad e-bost yw’r un y danfonwyd eich tocynnau atoch, a’r cyfrinair yw'r un wnaethoch ddefnyddio wrth brynu’ch tocynnau.

  • Rwyf wedi prynu tocynnau ond methu cael hyd iddynt – Peidiwch â phoeni, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar y wefan hon a chewch fynediad i’r fideo. Gallwch gael hyd i’ch tocynnau yn y ddewislen ar dop y dudalen trwy glicio Fy Nghyfrif > Mewngofnodi > E-Docynnau.

  • Mae'r ffilm yn ymddangos yn herciog neu'n torri allan pob hyn a hyn - Gall hyn fod oherwydd eich cyflymder rhyngrwyd neu, weithiau, cyflymder eich cyfrifiadur. Ceisiwch gau unrhyw ffenestri a chymwysiadau porwr ychwanegol sydd gennych ar agor. Os ydych chi'n teipio "internet speed test" i mewn i google gallwch wirio'ch cyflymderau lawrlwytho yn gyflym. Os yw hyn yn broblem i chi a bod y ffilm wedi cael ei ddifetha, yna cysylltwch â ni.

  • Nid yw'r sain yn gweithio - Gwiriwch eto bod eich sain wedi'i droi i fyny ac yn barod i ddod allan o'r lle iawn i chi wrth wylio (e.e. clustffonau neu siaradwyr).
  • Rwyf wedi ailosod fy nghyfrinair ond nid wyf wedi derbyn yr e-bost ailosod cyfrinair - Weithiau nid yw'r e-byst yma yn dod drwodd yn syth. Gwiriwch eich ffolderi sothach neu 'eraill' yn eich blwch derbyn (bydd yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost yr anfonwyd eich tocynnau ato) yn gyntaf. Os nad yw hynny'n gweithio yna cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio helpu'r gorau y gallwn.

  • Nid oes dim o hyn yn helpu, rwyf angen cysylltu hefo rhywun - Gwnewch os gwelwch yn dda - gallwch naill ai ffonio ein swyddfa docynnau (01352 344101), anfon e-bost atom (box.office@theatrclwyd.com) a chynnwys eich rhif ffôn fel y gallwn eich ffonio chi'n ôl, neu defnyddiwch y gwasanaeth ‘Sgwrs’ ar waelod y dudalen.
  • Problem Teledu Glyfar? Os oes gennych deledu clyfar efallai nad yw’n bosib mewngofnodi a gwylio o’r porwr rhyngrwyd adeiledig (gan nad ydynt yn cael eu diweddaru mor rheolaidd). Os ydych yn cael problemau rydym yn argymell eich bod (os gallech) yn cysylltu’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol i’r teledu gan ddefnyddio cebl HDMI neu gastio trwy Chromecast neu Airplay.