Apêl Bocs Esgidiau Nadolig

Helpu i wneud y byd yn lle hapusach y Nadolig hwn.

Mae Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cydweithio unwaith eto, y tro yma i greu bocs o lawenydd Nadolig i blant agored i niwed yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gofyn i bobl gyfrannu bocsys esgidiau’n llawn eitemau lliwgar a hwyliog i helpu i wneud y byd yn lle gwell i bobl ifanc y Nadolig hwn.

Gyda'r argyfwng costau byw presennol, mae ein hymgyrch yn teimlo'n bwysicach nag erioed, byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.


Sut mae dechrau arni?

Rhaid i chi gael bocs esgidiau (neu focs maint esgidiau!) – rhaid iddo gael caead (rhag i bethau syrthio allan) ac yn ddelfrydol cael ei addurno y Nadoligaidd, a gall fod yn hyfryd a phersonol neu gall fod dim ond neis a syml.

Ychwanegwch eich cyfarchion y tymor, neges o gefnogaeth neu ysbrydoliaeth.

Pethau y gallech eu hychwanegu:

  • Danteithion a/neu fyrbrydau iach – melysion, creision, siocled, resins, bariau ffrwythau ac ati ... (Cofiwch wneud yn siŵr bod y dyddiad yn addas ar bopeth a’u bod yn eu pecynnau gwreiddiol!)
  • Teganau a gemau – Gallant fod yn newydd neu’n ail-law (ond rhaid i bob darn fod yn y bocs!)
  • Celf a chrefft
  • Llyfrau, cylchgronau, comics a DVDs
  • Hadau a photiau planhigion (bychain)
  • Addurniad Nadolig

Ychwanegwch label oedran at y bocs (fel ei fod yn mynd i blentyn oedran cywir!) gall fod ar gyfer unrhyw oedran o 18 oed i fyny.

Peidiwch â selio’r bocs fel ein bod yn gallu ei wirio un waith cyn ei anfon allan!


Ble rwyf yn danfon fy mocs?

Gallwch ollwng eich bocs yn ein swyddfeydd yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug, CH7 1AP ar y dyddiau/amserau canlynol.

Dydd Llun 11 Rhagfyr - Dydd Iau 14 Rhagfyr, 9am-9pm
Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr, 9-1:30pm
Ffoniwch y seiniwr a byddwn yn cwrdd â chi.


Thank you for your help!