- Book Tickets
Pris: O £10
(Archebwch yn gynnar, a bydd y tocynnau yn rhatach)Amseroedd: 7.30yh | 2.30yp
Lleoliad: Theatr Anthony Hopkins
Digwyddiadau Arbennig:
Ôl-drafodaeth: 28 Ebr
Tanysgrifio ac Arbed!
Y Seddau gorau am y prisiau gorau gyda Phecyn Theatr neu Tocyn Tymor Hyblyg. Am hyblygrwydd ychwanegol cewch gyfnewid dyddiad eich tocynnau am ddim!
National Dance Company Wales: KIN Book Tickets
National Dance Company Wales: KIN
28 Ebrill - 29 Ebrill 2020
Dawns sy’n ein huno ni
Mae’n uno pobl, teuluoedd, ffrindiau, clybiau, timau, llwythau a chymunedau.
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n perfformio barddoniaeth, chwaraeon a gwleidyddiaeth ar draws tri darn dawns pwerus.
- Mae Rygbi: Yma / Here yn codi calon: llawn gobaith, gogoniant a chyfeillgarwch. Mae’n dathlu’r balchder a’r angerdd mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr rygbi yn ei brofi gyda’i gilydd.
- Cynnwrf egnïol yw Lunatic. Mae’n hwyl, yn berthnasol ac yn tanio. Mae’n uno cerddoriaeth a steil y 30au gyda diwydiant pop y 90au. Cafodd ei ddangos 10 mlynedd yn ôl am y tro cyntaf, ac mae’n llawn cwestiynau ynghylch cenedligrwydd, rhyw a dosbarth.
- Mae Time and Time and Time yn gain. Dawnswyr yn datgelu cerdd sy’n tywynnu, ynghylch y berthynas rhwng hanes amser a barddoniaeth tynged.
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Archebwch rŵan fel rhan o’r pecynnau Tanysgrifio.
Tanysgrifio ac Arbed! | Mwy o Theatr, Am Lai o Arian
Archebu 5+ o’r sioeau canlynol, arbed 20%
Archebu 3+ o’r sioeau canlynol, arbed 15%