- Video
- Book Tickets
Pris: O £15
Lleoliad: Sinema
Hyd: 142 munud
Iaith: Saesneg
Dyma’r llwyfaniad mwyaf erioed o 42nd Street, sioe gerdd enwog sydd wedi ennill Gwobr Tony®, a chafodd ei ffilmio’n fyw yn theatr fendigedig y Theatre Royal, Drury Lane, yng nghalon y West End yn Llundain.
Mae’n adrodd stori Peggy Sawyer, perfformwraig ifanc dalentog gyda’r sêr yn ei llygaid sy’n cael llwyddiant mawr ar Broadway. Newydd gyrraedd ar y bws mae Peggy o dref fechan yn America a dim ond wyneb arall yn y corws ydi hi yn sioe newydd Broadway. Ond pan mae’r brif ferch yn y sioe’n cael anaf, efallai y caiff Peggy gyfle i wireddu ei breuddwyd fawr i fod yn seren enwog…
Wedi’i chyfarwyddo gan awdur y sioe, Mark Bramble, mae’r ‘achingly beautiful revival of an American classic’ (★★★★★ Telegraph) yma’n cynnwys y trysor cenedlaethol Bonnie Langford fel Dorothy Brock, Tom Lister fel Julian Marsh, Clare Halse fel Peggy Sawyer a Philip Bertioli fel Billy Lawlor, yn perfformio gyda chast ensemble sy’n dawnsio tap ac yn rhoi sioe wefreiddiol i bawb. Gyda chaneuon eiconig – 42nd Street, We’re In The Money, Lullaby Of Broadway, Shuffle Off To Buffalo, Dames ac I Only Have Eyes For You – mae’n hud cerddorol pur ar y sgrin fawr – mae’n anodd iawn dod o hyd i adloniant cystal!